SL(6)602 - Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant mewn Ysgolion Annibynnol) (Peilota) (Cymru) 2025
Cefndir a Diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi dyletswydd statudol ar berchnogion ysgolion annibynnol yng Nghymru i rannu gwybodaeth am blant sydd ar eu cofrestr, â'r awdurdod lleol lle mae'r plentyn fel arfer yn byw.
Yn ôl y Memorandwm Esboniadol, mae'r wybodaeth yn ofynnol er mwyn rhoi sicrwydd i’r awdurdod lleol nad yw'r plentyn yn blentyn sy'n colli addysg ac nad oes angen iddo gynnal ymholiadau mewn perthynas â'r plentyn hwnnw.
Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud at ddibenion peilota yn unig ac maent yn peidio â chael effaith chwe wythnos ar ôl iddynt ddod i rym.
Gweithdrefn
Negyddol
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd annilysu’r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i’r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.
Yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn, mae enwau rhai o’r awdurdodau lleol peilot ychydig yn wahanol o’u cymharu ag Atodlen 1 i Reoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025 –
a) yn y Rheoliadau hyn, mae'n cyfeirio at “Cyngor Gwynedd” ond yn y Rheoliadau eraill mae'n cyfeirio at ”Cyngor Sir Gwynedd”. Yn y testun Cymraeg, golyga hyn hefyd nad yw enw’r Cyngor hwn wedi ei restru yn ôl trefn yr wyddor yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn gan ei fod wedi’i restru fel “Cyngor Gwynedd” yn hytrach na “Cyngor Sir Gwynedd”;
b) yn y fersiwn Saesneg o’r Rheoliadau hyn, mae'n cyfeirio at “Rhondda Cynon Taff County Borough Council” ond yn y Rheoliadau eraill mae'n cyfeirio at “Rhondda, Cynon, Taff County Borough Council”. At hynny, y sillafiad ar wefan y cyngor yw “Taf” yn hytrach na “Taff”.
A fyddech cystal â rhoi eglurhad ynghylch enwau'r awdurdodau lleol peilot uchod.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Mae darpariaeth fachlud wedi'i chynnwys yn y Rheoliadau. Mae rheoliad 1(2) yn darparu y bydd y rheoliadau yn dod i rym ar 8 Ebrill 2025 ac yn peidio â chael effaith ar 20 Mai 2025.
3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Mae’n ofynnol i berchennog ysgol annibynnol yng Nghymru ddatgelu i awdurdod lleol perthnasol, erbyn 20 Mai 2025, wybodaeth benodedig sydd ganddo mewn perthynas â phlentyn sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol honno. Bydd saith awdurdod lleol yn cymryd rhan yn y cynllun peilot. Dyma’r awdurdodau: Cyngor Sir Caerdydd, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Powys a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â phwynt un yn unig.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
26 Mawrth 2025